Job 40

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Job.

2“Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro?
Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”

3A dyma Job yn ateb:

4“Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud?
Dw i'n mynd i gadw'n dawel.
5Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.
Dw i am ddweud dim mwy.”

6Yna dyma'r Arglwydd yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:

7“Torcha dy lewys fel dyn!
Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb.
8Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn?
Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?
9Wyt ti mor gryf ag ydw i?
Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?
10Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.
Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.
11Dangos i bawb mor ddig wyt ti;
dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle.
12Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw;
sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!
13Cladda nhw yn y llwch,
a'u cloi nhw yn y bedd.
14Gwna i gyfaddef wedyn
dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!
15Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti;
mae e'n bwyta glaswellt fel ychen.
16Edrych mor gryf ydy ei gluniau,
ac ar gryfder cyhyrau ei fol.
17Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd;
mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd.
18Mae ei esgyrn fel pibellau pres,
a'i goesau fel barrau haearn.
19Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw;
dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.
20Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo,
ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae.
21Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog,
o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.
22Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod;
a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.
23Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo;
mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.
24All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio,
neu wthio bachyn drwy ei drwyn?
Copyright information for CYM